Mae 2012 yn dynodi Jiwbilî Diemwnt Ei Mawrhydi’r Frenhines ac rydym am sicrhau ei fod yn cael ei ddathlu mewn modd sy’n gweddu’r achlysur. Mae Her Meysydd Brenhines Elisabeth II yn ymgyrch newydd wych i ddiogelu 2012 o feysydd chwarae mewn cymunedau ar draws y wlad fel cymyn parhaol byw o’r digwyddiad mawreddog yma.
P’un ai eich bod mewn dinas boblog neu ynghanol y wlad, mae gofodau gwyrdd a meysydd chwarae yn galon i unrhyw gymuned a bydd Her Meysydd Brenhines Elisabeth II yn sicrhau bod y gofodau awyr agored yma yn cael eu gwarantu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae sicrhau mynediad at gyfleusterau chwaraeon llawr gwlad yn arbennig o berthnasol o ystyried y digwyddiad carreg filltir arall sy’n digwydd yn y DU yn 2012 - Gemau Olympaidd Llundain. Pa ffordd well o ddynodi’r sioe chwaraeon fwyaf yn y byd?
Bydd Her Meysydd Brenhines Elisabeth II yn rhoi’r cyfle i gymunedau i bleidleisio dros faes chwarae yn eu hardal i ddod yn rhan o’r cynllun ac i’w gael ei ddiogelu’n barhaol fel teyrnged i’r Jiwbilî Diemwnt.